A3. Rôl Gweithgorau Agregau Rhanbarthol yn y Dyfodol
Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Agregau
Darparu datganiad technegol rhanbarthol 5 mlynedd (o fewn 18 mis o gwblhau’r astudiaeth o allu amgylcheddol yng Nghymru) er mwyn sefydlu:
- Canlyniadau’r asesiad rhanbarthol o allu amgylcheddol ardal pob ACM i gyfrannu at gyflenwad digonol o agregau cynradd;
- llunio strategaeth ar gyfer darparu agregau yn y rhanbarth yn unol â’r asesiad rhanbarthol hwnnw, gyda dyraniadau o ddarpariaeth ym mhob awdurdod cynllunio mwynau i fod yn sail strategol ar gyfer cynlluniau datblygu yn y dyfodol;
- Asesu mewnforion ac allforion agregau nawr ac yn y dyfodol;
- Asesu cyfraniad agregau morol nawr ac yn y dyfodol;
- Cynghori’r Cynulliad ar botensial pob rhanbarth yng Nghymru i gynyddu’r defnydd o ddefnyddiau eraill i gymryd lle agregau cynradd.