A2. Arolygon Monitro Agregau
Mae gweithgorau agregau rhanbarthol yn gwneud arolygon monitro er mwyn darparu manylion o gynhyrchiad a defnydd rhanbarthol a chenedlaethol o agregau. Gwneir y prif arolygon ar gylch pedair blynedd ar gyfer Cymru a Lloegr ac maent yn darparu gwybodaeth am ddosbarthiad rhanbarthol agregau. Cyflawnwyd yr arolwg diwethaf yn 2001 a chyhoeddwyd y data cenedlaethol gan Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog . Cesglir y wybodaeth oddi wrth gynhyrchwyr mwynau gan yr awdurdodau cynllunio mwynau mewn arolwg a gydosodir yn rhanbarthol gan y gweithgorau agregau rhanbarthol. Ers y 1990au cynnar, mae’r gweithgorau hyn wedi gwneud arolygon blynyddol o gynhyrchiant agregau ac mae adroddiadau sy’n crynhoi cynhyrchiant agregau a chronfeydd pob awdurdod cynllunio mwynau’n cael eu cyhoeddi bob blwyddyn.
* Cydosodiad o Ganlyniadau Arolwg Mwynau Agregau 2001 ar gyfer Cymru a Lloegr SDBW (Arolwg Geolegol Prydeinig) 2003